Thursday, March 18, 2010

Emynau Cymraeg: MAE O YN FY YMYL

MAE O YN FY YMYL
Ysbryd Duw sy’n symud yn fy enaid i,
Cefais fywyd newydd drwy aberth Calfarî.
Ysbryd Duw sy’n symud yn fy enaid i
Drwy aberth Calfarî.
Cytgan:
Mae o yn fy ymyl,
Pob eiliad o bob dydd,
Mae o yn fy ymyl,
Yn fy nysgu’n ffordd y ffydd.
Yn fy ymyl, yn fy ymyl,
Yn fy ymyl bob dydd.

Fe ddaw Crist i’m harwain ar bob cam o’r daith.
Wrth i’m dystio iddo mewn gweddi ac mewn gwaith.
Fe ddaw Crist i’m harwain ar bob cam o’r daith,
Mewn gweddi ac mewn gwaith.
Cytgan:

Iddo beunydd tystiaf a’i wasnaethu’n daer,
Addo wnaf bob amser i fyw yn ôl ei Air
Iddo beunydd tystiaf a’i wasnaethu’n daer
A byw yn ôl ei Air.
Cytgan:
Colin Gordon-Farleigh © 2009
Cyf. Eirlys Gruffydd © 2009

No comments:

Post a Comment