Tuesday, March 16, 2010

Emynau Cymraeg

IESU NGWAREDWR
Tôn: Bunessan
Iesu Ngwaredwr,
Geidwad trugarog,
Maddau ein beiau,
Gwir Fab y Tad.
‘Rôl edifeirwch
Duw rydd faddeuant,
Cawn iachawdwriaeth
Drwy’r Iesu mad.

Iesu ddaeth atom
O nef y Duwdod,
Ganddo mae’r ateb
I gyflwr dyn.
Angau yw cyflog
Pechod , ond talodd
Ein holl ddyledion
Â’i waed ei hun.

Deuwn, addolwn,
Gweision y deyrnas,
Tystion ei gariad
I ddynolryw;
Nawr a’n dragwyddol,
Nes gweld ei wyneb,
Caria’r colledig
Deillion a briw.

Nawr gorfoleddwn
Caed iachawdwriaeth
Drwy Iesu’r prynwr
Ddaeth oddi fry.
Ef yw ein Ceidwd,
Mab y goruchaf,
Bendith ei gariad
Roddwyd i ni.

Dyrchafwn foliant
I nef y nefoedd;
Fe ddaw’r diwrnod
Cawn weld ei wedd.
Canau’r angylion
Glod ei ogoniant
Ef yw’r Meseia,
Awdur ein hedd.

© Colin Gordon-Farleigh
Cyf. Eirlys Grufydd

No comments:

Post a Comment