Thursday, August 26, 2010

Emynau Cymraeg : Mewn Addoliad

MEWN ADDOLIAD
Tôn: Hyfrydol

Dad Trugarog, fe’th ddilynaf
Ti fydd gwrthrych mawr fy mryd
Dad Tragwyddol, rwyf yn dewis
Gwneud d’ewyllys di o hyd.
Dad, fe’th wasanaethaf beunydd,
Canaf glodydd mawl fy Nuw;
Canaf gyda’r nefol luoedd
Am ‘doleuni, tra bwyf byw.

Arglwydd da, mewn gwir addoliad,
Canaf glod i’th enw mawr.
I’th ogoniant seiniaf foliant,
Tra bwy’n rhodio’r ddaear lawr.
Olau bythol, dangos lwybrau
Ein gobeithion am a ddaw,
Tywys di ni i drigfannau
‘Daddewidion , maes o law.

Moliant! Moliant roddaf iti
Oen ein Duw a’n Ceidwad cu;
Moli wnaf yr Iesu goncrodd
Ofnau’r bedd ac angau du.
Moliant! Moliant! Haleliwia!
Down a chanwn tra bom byw;
Teilwng yw ein Brenin nefol
O dragwyddol foliant gwiw.
© 2006 : Colin Gordon-Farleigh
Cyf. Eirlys Gruffydd

No comments:

Post a Comment