Thursday, October 7, 2010

Emynau Cymraeg : PYSGOTWR POBL

PYSGOTWR POBL
Gwna fi’n bysgotwr i’r deyrnas,
Taflu fy rhwyd ger y lli.
Rhannu’r newyddion am Geidwad,
Bu farw i’n hachub ni.

Rho imi’r geiriau sy’n denu,
Gad imi wybod y man
Lle gallaf dystio i’r cariad
Gadwodd y truan a’r gwan.


Ein golchi ym mhur waed yr Oen,
I ryddid fe’m prynwyd gan Dduw.
Glanhawyd, maddeuwyd fy mai.
I’r Arglwydd byddaf fi byw.
Gan Colin Gordon-Farleigh © 2009
Cyf. Eirlys Gruffydd © 2009

No comments:

Post a Comment