Wednesday, February 2, 2011

Emynau Cymraeg: 'Amser a Ddaw'


AMSER A DDAW
Tôn: Diademata  DSM
Amser a ddaw rhyw ddydd
Pan fydd y byd mewn hedd,
Pan orwedd llewpart gyda’r oen,
Ni fwydrir gyda’r cledd.
Cytgan:
Ein Brenin ni fydd Crist
A’i deyrnas dros y byd
Pob glin yn plygu ger ei fron          
Ailenir pawb ynghyd.
Pan wawria’r hyfryd ddydd
Cawn fyw yng ngholau ffydd,
Heb boen na chystudd yn y byd
Ac ni bydd nos na dydd.
Unwn a’r nefol gôr
I ganu mawl i’n Duw
Gan ogoneddu’r Arglwydd Iôr
A chawn dragwyddol fyw.
© 2009 : Colin Gordon-Farleigh
Cyf. Eirlys Gruffydd © 2009

No comments:

Post a Comment