Friday, April 22, 2011

Emynau Cymraeg: 'Y Pasg'

Y PASG
Canwch eich mawl i Frenin nef,
Daw’r Pasg â llawen wawr.
Codwch eich lleisiau gyda’r llu
Sy’n moli Duw yn awr!
Dathlu a wnawn fod Iesu’n fyw
  llais a chalon lawn.
Fe goncrodd ef holl ofn y bedd
A’n cyfiawnhau a’i Iawn.
Ei fuddugoliaeth yw ein braint,
Ei wobr yw ein rhan,
Cawn foli’i tragwyddoldeb maith
Ei enw yn y man.
Pob calon lân sy’n llawn o gân
Yn datgan mawl i’r Iôr,
Wrth ddathlu’r dydd y gwnaeth ni’n rhydd
A’i gariad fel y môr.
© 2008 : Colin Gordon-Farleigh
Cyf. Eirlys Gruffydd : © 2009

No comments:

Post a Comment