Tuesday, October 12, 2010

Emyn Cymraeg : 'Glwysoch Chi?




GLYWSOCH CHI?
Glywsoch chi y sôn am Iesu
Sut y daeth i roddi hedd?
Marw ar y groesbren arw,
Concro angau du a’r bedd.
Dathlu wnawn y fuddugoliaeth
Ar y Pasg bendigaid hwn
Molwn Grist, y Ffordd y Bywyd,
Geidwad mad sy’n cario’n pwn.
Molwch ef am iddo ennill
Buddugoliaeth ar y pren.
Concrodd ef dywyllwch pechod
Golau ddaeth i loywi’r nen.
Codi’n uwch mae lleisiau moliant
Ar y dydd y gwnaeth ni’n rhydd
Canwn am y Ceidwad tirion
Canwn i dragwyddol ddydd.
© 2006 : Colin Gordon-Farleigh
Cyf. Eirlys Gruffydd

No comments:

Post a Comment