Friday, October 1, 2010

Emynau Cymraeg



.


SANCTAIDD NOS
O sanctaidd nos,
Mae baban bach mewn preseb.
O sanctaidd nos,
Mae’n cysgu yn y gwair.


O sanctaidd nos,
Mae Mair, ei fam, yn gwylio
O sanctaidd nos,
Fe gwsg tan doriad gwawr.


O sanctaidd nos,
A’r seren olau’n ddisglair.
O sanctaidd nos,
Angylion ganant gân.


O sanctaidd nos,
Addoli mae’r bugeiliaid.
O sanctaidd nos,
A’u gweddi’n daer i’r nef.


O sanctaidd nos,
Ymgrymu mae’r brenhinoedd.
O sanctaidd nos,
Tra gwena aer y nef.


O sanctaidd nos,
Mae euraidd wawr yn torri,
O sanctaidd nos
Daeth Iesu yma i fyw.
© 2009 : Sheer Joy Music (H)

No comments:

Post a Comment