Wednesday, December 15, 2010

Emynau Nadolig :

CRIST Y BABAN
TÔN – DENNIS 
Addolwn faban Mair,
A gwsg mewn preseb tlawd;
Daeth Mab y Tad i’n daear ni,
Daeth Duwdod yn y cnawd.

A Mair ei fam yn gweld
O’n cysgu yn y gwair,
’R addewid wnaed gan Gabriel gynt,
A ddaeth yn wir bob gair.

Roedd deigryn ar ei grudd,
Mor addfwyn oedd ei gwedd,
A roddodd gusan ar ei ben,
A gorffwys wnaeth mewn hedd.

Daeth cariad Duw yn llawn
Yn Iesu i ni’n rhodd.
Ef yw ein Ceidwad, ef ein brawd,
Diddanydd wrth ein bodd.

Ei glodydd canwn byth
A llais a chalon lawn;
Fendigaid Geidwad mawr y byd,
Ein gobaith ynddo gawn.
© 2006 : Colin Gordon-Farleigh
Cyf. Eirlys Gruffydd

No comments:

Post a Comment