TÔN: CALON LÂN
Brysiwch lawr i’r stabl fechan,
Gyda’r seren uwch ei phen.
Dyma’r baban yn y preseb,
Llawn o gariad yw eich trem.
Wyneb Mair ei fam sy’n gloywi
Yng ngoleuni’r lampau rhos,
Mab y Nef sydd wedi’i eni,
Daeth i’r byd ar sanctaidd nos.
Yn y maes bugeiliaid glywodd
Gân angylion oddi fry,
Gwelsant seren yn disgleirio,
Duw a’n carodd, meddai hi.
Draw o’r dwyrain daeth y doethion
I addoli wrth ei grud,
Aur a thus a myrr a gariant,
Caiff y Brenin rhoddion drud.
O dywyllwch llwm y stabl,
Trwy yr enedigaeth hon,
Daeth gogoniant y Tad y Nefol
I rhoi golau i bob bron.
Golau gall y dall ei weled,
Golau ddaw o’r Iesu gwiw,
Gras mor hael y Tad a’r Duwdod,
Yw ein gwaddol tra bom byw.
Colin Gordon-Farleigh © 2009
Cyf. Eirlys Gruffydd © 2009
No comments:
Post a Comment