Total Pageviews

Monday, March 22, 2010

Emynau Cymraeg

PYSGOTWR POBL

Gwna fi’n bysgotwr i’r deyrnas,
Taflu fy rhwyd ger y lli.
Rhannu’r newyddion am Geidwad,
Bu farw i’n hachub ni.
Rho imi’r geiriau sy’n denu,
Gad imi wybod y man
Lle gallaf dystio i’r cariad
Gadwodd y truan a’r gwan.
Ein golchi ym mhur waed yr Oen,
I ryddid fe’m prynwyd gan Dduw.
Glanhawyd, maddeuwyd fy mai.
I’r Arglwydd byddaf fi byw.
© 2006 Colin Gordon-Farleigh
Cyf. © 2010 Eirlys Gruffydd

No comments: