Total Pageviews

Friday, August 20, 2010

Emyn Cymraeg : 'O'r Rhyfeddod'

O'r Rhyfeddod! 8.7.8.7.
Tôn: Blaenwern
1.
Clywaf d’alwad O! Waredwr,
I dy wasanaethu Di:
Fendigedig Iesu, deuaf
I’th ewyllys, plygaf i.
O’r rhyfeddod, O’r llawenydd,
Brynwr gwerthfawr ‘rwyf yn rhydd,
O’r rhyfeddod, O’r llawenydd,
Bodlon yn Dy waith bob dydd.


2.
Drwy fy mywyd, cwsg neu effro,
Ddydd neu nos, O! ysbryd byw
‘Rwyt arweinydd a diddanydd,
Ti yw popeth im fy Nuw.
O’r rhyfeddod, O’r llawenydd . . .

3.
Teimlaf Di gerllaw yn fythol,
Cerddi gyda mi bob cam,
Yn ddiogel ‘rwyt yn gwarchod,
Cariad mwy na chariad mam.
O’r rhyfeddod, O’r llawenydd . . .

4.
Ti O! Grist, yw fy ngwaredwr,
Aethost drosof fi I’r Groes,
O! Fab Duw fy mhrynwr dedwydd,
Fe’th addolaf hyd fy oes.
O’r rhyfeddod, O’r llawenydd . . .

Geiriau 2006 : Colin Gordon-Farleigh
Cyf: Olwen Elena Williams

No comments: