Total Pageviews

Sunday, October 24, 2010

Emynau Cymraeg: "O’r Rhyfeddod"

O’r Rhyfeddod
Tôn: BLAENWERN
Clywaf d'alwad O! Waredwr,

I dy wasanaethu Di:
Fendigedig Iesu, deuaf
I'th ewyllys, plygaf i.

O’r rhyfeddod, O’r llawenydd,
Brynwr gwerthfawr 'rwyf yn rhydd,
O'r rhyfeddod, O'r llawenydd,
Bodlon yn Dy waith bob dydd.

Drwy fy mywyd, cwsg neu effro,
Ddydd neu nos, O! ysbryd byw
'Rwyt arweinydd a diddanydd,
Ti yw popeth im fy Nuw.
O’r rhyfeddod, O’r llawenydd,
Brynwr gwerthfawr 'rwyf yn rhydd,
O'r rhyfeddod, O'r llawenydd,
Bodlon yn Dy waith bob dydd.

Teimlaf Di gerllaw yn fythol,
Cerddi gyda mi bob cam,
Yn ddiogel 'rwyt yn gwarchod,
Cariad mwy na chariad mam.
O’r rhyfeddod, O’r llawenydd,
Brynwr gwerthfawr 'rwyf yn rhydd,
O'r rhyfeddod, O'r llawenydd,
Bodlon yn Dy waith bob dydd.

Ti O! Grist, yw fy ngwaredwr,
Aethost drosof fi i'r Groes,
O! Fab Duw fy mhrynwr dedwydd,
Fe'th addolaf hyd fy oes.
O’r rhyfeddod, O’r llawenydd,
Brynwr gwerthfawr 'rwyf yn rhydd,
O'r rhyfeddod, O'r llawenydd,
Bodlon yn Dy waith bob dydd.
© 1990 : Colin Gordon-Farleigh
Cyf. Olwen Elena Williams

No comments: