Total Pageviews

Sunday, October 3, 2010

Emynau Cymraeg : O Mor llon



O MOR LLON
O mor llon yw fy mron pan y clywaf enw Crist,
O’r fath newid ryfeddol wnaed gan Dduw.
Daeth a’i ryfedd ras i lanhau fy mhechod cas;
Nawr mor llon, o mor llon yw fy myw.
O mor llon, o mor llon, o mor llon yw fy mron.
Daeth a’i rhyfedd ras i lanhau fy mhechod cas,
O mor llon, ie mor llon yw fy mron.


O mor llon yw fy nghân pan yn moli’i enw glân;
O’r fath newid ryfeddol ddaeth i’m ffydd.
Golchodd f'enaid gwan yn ei waed, a’m dwyn i’r lan,
Nawr ei ganmol ef wnaf nos a dydd.
O mor llon, o mor llon, o mor llon yw fy mron,
Daeth a’i ryfedd ras i lanhau fy mhechod cas,
O mor llon, ie mor llon yw fy mron.


O mor llon yw ein gwlad am fod gennym Geidwad mad
O’r fath newid ryfeddol ddaeth i’n byd.
Canwn glodydd y Mab wnaeth ewyllys Duw ei Dad,
Sain gorfoledd yw’n hanthem o hyd.
O mor llon, o mor llon, o mor llon yw fy mron,
Daeth a’i ryfedd ras i lanhau fy mhechod cas,
O mor llon, ie mor llon, yw fy mron.
© 2006 : Colin Gordon-Farleigh
Cyf. Eirlys Gruffydd

No comments: