Total Pageviews

Thursday, February 3, 2011

Emyn Cymraeg : 'Crist yw'r Golau'

CRIST YW’R GOLAU
Crist yw goleuni yr holl fyd
Ond pan mae’n nos ar ffydd
Golau ei gariad ef a’i ras
Sy’n troi y nos yn ddydd.

Daeth Crist i fyd o bechod du
I fwrw allan fraw.
I ddynion daeth a golau’r Tad
A disglair ddydd a ddaw.

Ei olau Ef sy ynom ni
Ei ffrindiau ydym oll.
Ef yw ein Prynwr, Ef ein Duw
Ei weision yn ddigoll.

Disgleiriwn drosto yn y byd
Yn lampau ar ein rhawd
Yn wrol cerddwn drwy bob nos
A’i weld ef yn y cnawd.
© 2009 : Colin Gordon-Farleigh
Cyf. Eirlys Gruffydd © 2011

No comments: